Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Paid Cyffwrdd — Dweud! Paid Yfed — Meddylia!

Mae Paid Cyffwrdd — Dweud! a Paid Yfed — Meddylia! yn parhau i wneud cyfraniad pwysig yn ysgolion cynradd Gogledd Cymru at annog negeseuon ‘cadw’n ddiogel' mewn perthynas â chyffuriau, ac yn fwy diweddar, ymwybyddiaeth o alcohol. Mae wedi cael ei groesawu gan ysgolion fel adnodd addysgu pwysig yn y gwaith o hyrwyddo addysg iechyd a diogelwch.

Yn unol ag arferion da ym maes addysg ynghylch camddefnyddio sylweddau, mae Paid Cyffwrdd — Dweud! a Paid Yfed — Meddylia! yn ymgorffori dulliau sgiliau bywyd eang, ac yn grymuso plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau cyfrifol a gwybodus ynghylch amrywiaeth o sylweddau.