Llety â chymorth dwysedd canolig a gwasanaeth cymorth fel bo’r angen i bobl sydd ag anghenion cymorth yn gysylltiedig ag alcohol neu gamddefnyddio sylweddau yw Doorstop.
Nod y prosiect yw sefydlogi defnyddwyr gwasanaeth mewn amgylchedd heb gyffuriau ac alcohol yn eu tenantiaeth eu hunain.
Sicrhau bod pobl yn gallu symud ymlaen i fyw’n annibynnol ar ôl cwblhau eu cynllun cymorth ac y byddant yn gallu dal i fyw’n annibynnol pan fydd y cymorth wedi dod i ben.
Bydd pob atgyfeiriad yn cael ei wneud drwy Lwybr Atgyfeirio Sengl Sir Ddinbych a Llwybr Atgyfeirio Sengl Conwy gan ddibynnu lle mae’r lle gwag wedi’i nodi.