Ers 1961, Blynyddoedd Cynnar Cymru yw’r sefydliad ymbarél mwyaf sy’n cefnogi amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau aelodaeth i’r sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. Ein prif weithgaredd yw gwella datblygiad ac addysg plant cyn-ysgol yng Nghymru drwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion drwy ddarpariaeth a gofal plant cyn-ysgol o safon uchel.
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru eisiau cefnogi’r holl blant cyn-ysgol, eu teuluoedd a darparwyr Blynyddoedd Cynnar ledled Cymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd drwy:
- Gefnogi darparwyr gofal blynyddoedd cynnar
- Cefnogi teuluoedd i gymryd rhan mewn chwarae
- Hyrwyddo gwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru’n eang
- Cyfrannu ar weithredu polisi ar lefelau Cenedlaethol a Lleol
- Datblygu Partneriaethau
- Cynnal a datblygu llywodraethiant a rheolaeth sefydliadau
- Recriwtio a datblygu staff a gwirfoddolwyr
- Chwilio am, a rheoli, cyllid i gynnal ac ymestyn ein gwasanaethau