Mae ELITE Supported Employment yn elusen gofrestredig sy'n grymuso pobl anabl a difreintiedig ledled de, canolbarth a gorllewin Cymru. Mae ein cenhadaeth yn bellgyrhaeddol. Rydyn ni’n cefnogi cannoedd o bobl bob blwyddyn gyda chyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth trwy ein rhwydwaith eang o bartneriaethau, cyllidwyr a rhanddeiliaid, a’n pedair Menter Gymdeithasol.