Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Epilepsi Cymru - Gogledd Cymru

Mae Epilepsi Cymru yn bodoli i gefnogi oedolion a phlant gydag epilepsi, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Rydym yn darparu gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag epilepsi, megis gwybodaeth am wahanol fathau o ffitiau, sut mae epilepsi yn effeithio unigolion, sut i leihau risgiau, cyflogaeth, teithio, cymorth cyntaf a budd-daliadau. Rydym yn darparu cefnogaeth emosiynol ac yn gwrando ar bryderon phobl. Prif nodau Epilepsi Cymru yw gwneud i bobl ag epilepsi deimlo'n llai ynysig, teimlo'n fwy hyderus ac gallu rheoli eu cyflwr yn well. Rydym yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am epilepsi a'r materion sy'n amgylchynu'r cyflwr.