Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW)

Mae Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW) yn fudiad trydydd sector cafodd ei sefydlu i gefnogi, addysgu ac argymell merched yng Nghymru sydd yn dioddef o nifer o wahanol afiechydon ac sydd ddim yn derbyn triniaeth digonol na thêg. Mae nifer o'r rhai sydd yn defnyddio'r mudiad yn teimlo fod hyn, yn bennaf, oherwydd nad oes digon o gyfarpar arbennigol yng Nghmru, ac oherwydd nad ydy'r system, ar hyn o bryd, yn gadael i gleifion ddewis, a gweld, y meddygon hynny sydd â'r sgiliau gorau i ddarparu gofal 'safon aur'.

Mae FTWW ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar endometriosis, afiechyd sydd yn effeithio un o bob deg merch. Mae llawer o chwedlau a chamddealltwriaeth o gylch y cyflwr. Mae'n hanfodol fod y cleifion yn hollol ymwbodol o sut mae'r afiechyd yn cyflwyno ei hun, ac eu bod yn medru siarad yn hyderus drostynt eu hunain er mwyn cael diagnosis cynnar a'r triniaeth mwyaf effeithiol.