Mae FibroSupport-Wales yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (Rhif Elusen: 1193505), sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda Ffibromyalgia a'u hanwyliaid.
Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i gynnig:
* Atgyfeiriadau banc bwyd
* Talebau Tanwydd
* Cefnogi ceisiadau Cronfa Cymorth Dewisol
* Cynlluniau data
Mae FibroSupport-Wales yn cynnig cymorth un-i-un wedi’i deilwra i bob unigolyn a bydd yn gwneud ein gorau glas i gynnig unrhyw gymorth ymarferol y gallwn neu ei gyfeirio at unrhyw asiantaethau perthnasol.