Os nad ydych erioed wedi clywed am bantri cymunedol, maent yn darparu nwyddau groser am gost is na archfarchnadoedd neu siopau, gan gynnig amrywiaeth o fwydydd ffres a chyffredinol sy’n newid yn wythnosol drwy gynllun aelodaeth.
Gall unrhyw un ddefnyddio eu pantri cymunedol lleol; dim ond cofrestru fel aelod sydd ei angen, ac yna gallwch ddefnyddio’r pantri unwaith yr wythnos. Mae pantrïau’n gweithio i helpu lleihau gwastraff bwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi drwy gydweithio â busnesau bwyd lleol.
I ni, mae hyn yn golygu:
Bwyd Fforddiadwy: Bydd ein haelodau’n talu £1 i ymuno â’r pantri ac wedyn yn cael mynediad i fag ailddefnyddiadwy “Porffor” Baobab Bach. Bydd pob bag yn cynnwys hyd at 15 eitem o fwyd o safon ac am bris fforddiadwy i helpu llenwi’r cypyrddau a pharatoi prydau am ddim ond £5.