Ei’n FoodShare Pantri yw prosiect sydd ar agor i bawb a nod ni yw i atal gwastraff fwyd wrth gefnogi'r rheini sydd yn wynebu ansicrwydd fwyd. Mae llawer o bobl sy'n wynebu ansicrwydd bwyd yng nghefn gwlad Bro Morgannwg yn ffeindio hi'n anodd cael mynediad at fwyd cost-effeithiol ac opsiynau iach. Yn FoodShare Pantri Llanilltud Fawr, gall ein cymuned leol ymuno â ni bob wythnos i ailgyflenwi eu siopa wythnosol am ffracsiwn o brisiau archfarchnadoedd, gan wneud eu rhan hefyd i atal bwyd dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae'r pantri ar agor bob dydd Iau rhwng 12.00 a 2yp, ac am £5 gall ein cwsmeriaid ddewis eitemau sy'n gyfanswm o leiaf 4 gwaith y gwerth hwn o'n hoergelloedd, rhewgelloedd a silffoedd, yn ogystal â ffrwythau ffres, llysiau ac eitemau wedi'i phobi diwedd dydd.