Llogi'r Oriel

Lleoliad

Cyfeiriad post

Chapel Street Pont-Tyweli Llandysul SA44 4AH

Cyfleusterau

  • Toilets
  • Kitchen
  • IT
  • Internet (wifi)
  • Equipment
  • Disabled access
  • Disabled toilet
  • Conference

Mae ein "Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau" yn cael ei chefnogi gan wirfoddolwyr o'r gymuned leol, ac rydym yn darparu amgylchedd o ansawdd uchel gyda dewis o ofod naill ai yn ystafelloedd "Teifi, "Tyweli neu yn y y balconi dan d'. Mae gan bob ystafell system crog proffesiynol. Mae pob gofod o faint gwahanol, byddem yn argymell i chi gysylltu a ni er mwyn trefnu amser a dyddiad cyfleus i chi ymweld ar orieler mwyn mesur y gofod. Mae gyda ni gegin weithredol llawn gyda oergell fechan a ffwrn mecrodon. Rydym yn gofyn am gyfraniad am de a choffi os bydd defnydd o gyflenwad y Pwerdy yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cost trydan.

Mae'r canolfan wedi ei gosod ar gyfer eich dibenion chi i arddangos a goruchwilio eich arddangosfa bersonol. Nid ydym yn medru cynnig peiriant talu a cherdyn na pheiriannau arian am unrhyw werthiannau. Taliadau uniongyrchol i'r artist. Mae'r ystafelloedd yn addas ar gyfer gweithdai, darlith,ac arddangosiadu.Byrddau a chadeiriau a thaflunydd (Gellir llogi'r taflunydd) at eich defnydd . Gellwch ddefnyddio ein cyfrifiadur ac argraffydd (Gwnewch gais am y cyfrinair) wedi ei leoli yn y gegin /swyddfa. Gofynnir tâl rhesymol am ddefnyddio 'r argraffydd.