Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gig Buddies Cymru

Darparwyd gan
Gig Buddies Cymru

Darparwyd gan
Gig Buddies Cymru

Lleoliad

Mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn ei chael hi’n anodd mynd allan a mwynhau’r pethau maen nhw wrth eu bodd yn eu gwneud. Er enghraifft, mae bron i 1 o bob 3 o bobl ifanc ag anabledd dysgu yn treulio llai nag awr y dydd y tu allan i’w cartrefi ar ddydd Sadwrn arferol (ymchwil Mencap 2016).
Mae’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag mynd allan, yn enwedig gyda’r nos, yn cynnwys: diffyg cefnogaeth, ofn bwlio a gwahaniaethu, materion trafnidiaeth, hyder, neb i fynd gyda nhw, a ddim yn gwybod beth sydd ymlaen.
Drwy fod yn Gyfaill Gig Buddy yn chwarae rhan bwysig iawn wrth gefnogi rhywun i oresgyn y materion hyn.
Mae'r hyfforddiant rhad ac am ddim yn cynnwys pob agwedd ar fod yn Gyfaill Gig gwych
• cyfathrebu
• diogelu (cadw eich Cyfaill Gig yn ddiogel)
• awgrymiadau ar gyfer cael amser gwych gyda'ch gig buddy.