Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

GISDA

Darparwyd gan
GISDA

Darparwyd gan
GISDA

Lleoliad

Cyswllt

01286 671153

Mae Gisda'n elusen sy'n rhoi cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc digartref a bregus yng Ngwynedd drwy darparu llety; cefnogaeth therapiwtig i ddatblygu hyder a sgiliau byw'n annibynnol; cefnogaeth lles a iechyd meddwl; cefnogaeth symud ymlaen i gyflogaeth, addysg a/neu hyfforddiant; gweithgareddau creadigol i godi hyder a datblygu sgiliau; cyfleoedd i ehangu gorwelion. Mae hyn i gyrraedd ein gweledigaeth bod pobl ifanc Gwynedd yn gallu byw bywydau hapus a diogel yn rhydd o anfantais ac annhegwch.
Mae'n darparu amryw o brosiectau megis Academi Cyflaeon sydd yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 - 25 oed ar draws Wynedd gyda sgiliau byw'n annibynnol, cyflogadwyedd, gwirfoddoli a hyfforddiant. ICAN, sydd yn darparu cymorth cynnar i bobl sydd yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a'u lles. LHDTC+, clybiau ieuenctid yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli i bobl LHDTC+. Cymorth Tai, darparu cefnogaeth i bobl ifanc ar eu taith i fyw'n annibynnol. A llawer mwy.