Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Goleudy Housing and Support - Connect Project

Yn Connect, ein nod yw i:
• cynyddu cynhwysiant cymdeithasol yn y gymuned a helpu aelodau i wneud dewisiadau gwybodus.
• galluogi pobl i weithio tuag at fwy o annibyniaeth ac i fyw bywydau mor gyflawn â phosibl.
• cynnal Iechyd Meddwl da a synnwyr o Les ymysg ein haelodau i gyd.
• atal ail-fynediad i gylch Digartrefedd.
Rydym yn cydweithio gyda thimau iechyd meddwl cymunedol, gwasanaethau cymdeithasol (y tîm cymorth cymunedol), cydlynwyr ardal leol, timau cymorth tenantiaeth a gwasanaethau cymorth arnofiol eraill.
Mae gennym ystod eang o weithgareddau yr ydym yn eu cynnig gan gynnwys crefftau, cerddoriaeth, teithiau, iechyd a lles.