Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gorwel

Darparwyd gan
Gorwel

Darparwyd gan
Gorwel

Lleoliad

Cyswllt

03001112121

Grŵp Cynefin, cymdeithas dai gofrestredig sy'n darparu mwy na 4,500 o gartrefi i'w rhentu i deuluoedd a phobl ledled Gogledd Cymru.

Mae Gorwel yn Uned Fusnes o fewn Grŵp Cynefin. Prif ffocws Gorwel yw darparu gwasanaethau cymorth ym maes cam-drin domestig ac atal digartrefedd. Mae Gorwel yn gweithredu yng Ngwynedd, Môn a Sir Ddinbych; mae prosiectau'n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chymorth, gwasanaethau plant a phobl ifanc a chymorth yn y gymuned.

Gall y math o gymorth a ddarperir gynnwys: Cymorth gyda sgiliau bywyd a sgiliau byw'n annibynnol
Cymorth i reoli cyllid a gwneud y mwyaf o incwm, i lunio cynlluniau cyllideb a hawlio budd-daliadau lles
Cymorth i ymateb i faterion tai a chynnal tenantiaeth
Cymorth i gael mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Cymorth i fynychu cyfarfodydd gydag asiantaethau allanol.
Cyngor a chymorth i arwain ffordd o fyw iach a gweithgar
Cymorth i wella ansawdd bywyd