Grŵp Cynefin, cymdeithas dai gofrestredig sy'n darparu mwy na 4,500 o dai i'w rhentu i deuluoedd a phobl ar draws Gogledd Cymru
Uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin yw Gorwel. Prif ffocws Gorwel yw darparu gwasanaethau cefnogi yn y meysydd trais yn y cartref ac atal digartrefedd. Mae Gorwel yn weithredol mewn tair sir - Gwynedd, Ynys Môn ac Sir Ddinbych. Mae prosiectau Gorwel yn cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref
Gall y math o gefnogaeth a ddarperir gynnwys:-
Cymorth gyda sgiliau bywyd a sgiliau byw’n annibynnol
Cynorthwyo gyda rheoli cyllid a chadw at gyllideb a hawlio budd-daliadau lles
Cymorth i ymateb i faterion tai a chadw tenantiaeth
Cymorth i fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Cyngor a chefnogaeth i ddilyn ffordd o fyw iach ac egnïol
Cefnogaeth i wella ansawdd bywyd a llesiant