Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwent Access to Advocacy (GATA)

Lleoliad

Cyswllt

08088010566

Mae eiriolaeth yn wasanaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim i'ch helpu i ddeall eich hawliau, cael mwy o lais, dewis a rheolaeth pan fydd penderfyniadau yn eich effeithio.

Ydy'r llinell gymorth eiriolaeth yn addas i mi? Ydy os ydych:
- yn 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am eich anghenion gofal a chefnogaeth
- yn ofalwr 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am anghenion gofal a chefnogaeth chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt
- yn berthynas, ffrind neu'n weithiwr proffesiynol sy'n credu byddai rhywun yn buddio o dderbyn eiriolaeth

Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyda chyfeiriadau at wasanaethau eiriolaeth i oedolion. Gan ein bod yn annibynnol ar awdurdodau lleol, y GIG a darparwyr eiriolaeth, gallwn sicrhau y derbynnwch y math o eiriolaeth cywir i chi.