Mae Gypsies and Travellers Wales yn elusen fach a sefydlwyd ym 1981.
Nod GTW yw cefnogi a galluogi Sipsiwn a Theithwyr i sicrhau ansawdd bywyd uchel a chynaliadwy, yn eu diwylliant eu hunain, trwy wella mynediad at dai addas, gwasanaethau cyhoeddus a sgiliau cyflogaeth.
Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth helaeth i'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd yn ogystal â’r Cyngor a’r holl asiantaethau a sefydliadau perthnasol.
Y prif feysydd gwaith yw bod yn bwynt cyswllt ar gyfer materion datblygu, rheoli a chynnal a chadw Safleoedd; digartrefedd; budd-daliadau llesiant, adolygiadau ac apeliadau; gwasanaethau addysg, iechyd, cymdeithasol a thai; a gwahaniaethu ar sail hil.
Mae gennym hefyd brosiect cymorth tenantiaeth a phrosiect sgiliau a chymorth Cyflogaeth.