Mae Haemochromatosis UK yn cefnogi ac yn helpu pobl yn y DU sydd â Haemocromatosis Genetig ac yn sicrhau bod eu perthnasau yn cael eu profi mewn da bryd. Mae Haemochromatosis UK yn cynhyrchu taflenni a llyfrynnau llawn gwybodaeth am Haemochromatosis yn ogystal ag e-gylchlythyr misol. Maent hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd ac yn cefnogi ymchwil. Mae Haemochromatosis UK yn cynnig llinell gymorth.