Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwasanaeth Cymorth ar gyfer y Digartref (Castell Ventures)

Mae Gwasanaeth Cymorth ar gyfer y Digartref yn trefnu darpariaeth llety brys ar gyfer unigolion digartref mewn 3 fflat pwrpasol yn Aberteifi. Rydym yn gweithio gyda'r rhai a rhoddir llety iddynt i sicrhau llety priodol, parhaol, gan gynnig gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai iddynt. Yn ogystal, rydym yn cynnig gwasanaeth mewn unrhyw ddaliadaeth i'r rhai sydd mewn peryg o fod yn ddigartref er mwyn eu galluogi i feithrin y sgiliau er mwyn cynnal tenantiaethau llwyddiannus. Trwy helpu i greu cyfleoedd i fyw, gweithio a manteisio ar weithgareddau hamdden a chymdeithasol mewn cymuned o'u dewis.