Twf Swyddi Cymru Plws - Sir Benfro a de Ceredigion

Lleoliad

Cyfeiriad post

Melville Street Pembroke Dock SA726XS

Cyfleusterau

  • Toilets
  • Kitchen
  • Refreshment
  • IT
  • Internet (wifi)
  • Parking
  • Disabled access
  • Disabled toilet
  • Conference
  • Internet (no wifi)

Efallai dy fod yn chwilio am y swydd iawn neu am gymryd y camau nesaf ym myd addysg ac angen rhywfaint o help llaw.

Dyna lle gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal.

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Mae’n rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i llunio o dy gwmpas di. Felly, mae Twf Swyddi Cymru+ yn opsiwn da os wyt ti am gael rhywfaint o help neu ragor o gefnogaeth.

Gyda Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu:

Rhoi cynnig ar swyddi a allai fod o ddiddordeb i ti drwy dreialon a lleoliadau gwaith
Cael dy dalu gyda lwfansau hyfforddiant wythnosol tra’n dysgu a chyflog go iawn pan fyddi di’n cael dy gyflogi
Derbyn cyngor ac arweiniad parhaus a hyfforddiant un i un er mwyn dy helpu i gyrraedd dy nodau
Magu dy hyder wrth i ti ddatblygu dy sgiliau a’th brofiad
Hyfforddi ac ennill cymwysterau cydnabyddedig i hybu dy opsiynau gyrfa
Cael dy droed drwy’r drws a mynediad at swyddi gyda chyflogwyr lleol

Gelli di wneud cais am Twf Swyddi Cymru+ os wyt ti:

Rhwng 16 ac 19 oed; ac
Yn byw yng Nghymru, a
Ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth neu hyfforddiant

Cyswyllt: futureworks@pembrokeshire.gov.uk 01437 776437

Amseroedd agor

09:15 - 16:30

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig