Kinship yw’r prif elusen gofal gan berthnasau yng Nghymru a
Lloegr. Rydym ni’n cynnig dealltwriaeth a chefnogaeth ariannol,
cyfreithiol, ymarferol ac emosiynol i ofalwyr sy’n berthnasau o’r
foment pan fydd angen hynny arnyn nhw, a chyhyd ag y bydd
yr angen yno.
Rydym yma i bob gofalwr sy’n berthynas.
Pob mam-gu, tad-cu, brawd, chwaer, modryb, ewythr,
perthynas arall a ffrind sy’n camu i’r bwlch i fagu plant pan fydd
eu rhieni’n methu gwneud hynny.
Rydym am weld pob teulu o berthnasau yn cael y
gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth mae arnyn nhw eu hangen, ac y
maen nhw’n eu haeddu.
Mae gofalwyr sy’n berthnasau yn gryf ac yn benderfynol. Gyda’i
gilydd, maen nhw’n bwerus. Rydym yn eu helpu i greu
cymunedau cefnogaeth a gweithredu trwy gysylltu teuluoedd
yn lleol ac ar draws Cymru a Lloegr
9.30 -12.30 Dydd Llun - Dydd Gwener : Gweler ein gwefan am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i gysylltu â'r tîm cynghori : https://compass.kinship.org.uk/get-advice-and-information/
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig