Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Edrych tua’r Dyfodol

Lleoliad

Cyswllt

02920 108080

Mae Edrych tua’r Dyfodol yn wasanaeth therapiwtig i blant a phobl ifanc 4-17 oed sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol.
Gall plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin deimlo’n ddryslyd ac yn ofidus am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt, ond gall cael cyfle i drafod eu meddyliau a’u teimladau fod yn ddefnyddiol iawn.

Beth yw nodau’r rhaglen?
Ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc, y nod yw:
• darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n helpu’r plentyn neu’r person ifanc i drafod effaith y gamdriniaeth a datrys unrhyw broblemau sy’n parhau neu ymdopi’n well â nhw
• cryfhau eu perthynas â’u brodyr a chwiorydd a’u rhieni neu ofalwyr gan sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth wrth iddynt ddod dros y gamdriniaeth
• helpu rhieni a gofalwyr i ddeall effaith cam-drin rhywiol ar eu plentyn neu eu person ifanc er mwyn iddynt allu ymateb yn well i anghenion eu plentyn.