Mae Listening Books yn elusen genedlaethol sy’n darparu gwasanaeth benthyca llyfrau sain ar-lein i blant ac oedolion yn y DU sy’n gweld bod salwch, anabledd, cyflwr dysgu neu iechyd meddwl yn effeithio ar ddarllen neu ddal llyfr.
Mae gan y casgliad llyfrau sain amrywiaeth enfawr o lyfrau sain ffuglen, ffeithiol ac addysgol gwych sy’n addas ar gyfer plant 7 oed a hŷn, sydd ar gael i’w ffrydio o wefan Listening Books, neu i’w lawrlwytho gan ddefnyddio ap Libby ar ddyfais gludadwy fel tabled neu ffôn clyfar. .
Gall aelodau hefyd gael mynediad at ystod eang o bapurau newydd a chylchgronau ar-lein trwy Pressreader.
Mae aelodaeth yn cael cymhorthdal o £20 y flwyddyn, neu am ddim i'r rhai na allent fforddio'r gost hon.