Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwasanaethau Cefnogaeth Llamau i Bobl Ifanc Pen-y-Bont

Wedi'i ariannu gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Llamau yn darparu 18 uned o lety cymorth 24 awr dros 4 prosiect ledled y sir.

Cyfeirir pobl ifanc sy'n gwynebu digartrefedd a gydag amrywiaeth o anghenion cefnogaeth cymleth atom drwy’r cyngor.

Ein nod yw gweithio gyda phobl ifanc, a'u cefnogi ar eu taith tuag at annibyniaeth yn y gymuned. Byddwn yn darparu cefnogaeth iddynt i symud ymlaen ac ymgartrefu mewn llety annibynnol.

Rydym hefyd yn darparu Cyfryngdod Teuluol ac Eiriolaeth.