Mae’r Lab Cerdd ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 18 oed sydd â meddwl creadigol a brwdfrydedd am gerddoriaeth. Mae’r Lab Cerdd yn gyfle i archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu, recordio a golygu cerddoriaeth.
Bydd y Lab Cerdd yn cael ei arwain gan y tiwtor Will Frampton, yn ogystal â detholiad o gerddorion proffesiynol. Bydd y cyfranogwyr yn creu seinweddau gyda’r cerddorion, gan ddefnyddio offerynnau cerdd traddodiadol yn ogystal â ffynonellau sain eraill, fel llais a sain a ganfyddir, i greu cerddoriaeth arbrofol a chelf sain. Bydd apiau, syntheseiddwyr, lŵps ac elfennau eraill o recordio a golygu sain hefyd yn cael eu defnyddio, a bydd croeso i gyfranogwyr ddod â’u hofferynnau eu hunain. Fydd dim rhwystrau i’ch creadigaethau!