Mae'r Gwasanaeth Tai a Chymorth, Gwasanaeth Doorstop, a Gwasanaeth Cymorth ar gael fel bo'r angen yng Ngwynedd ac yn cael ei ariannu drwy Raglen Cefnogi Pobol Cyngor Gwynedd. Mae'r cynllun yn cynnig cartref a chymorth dros dro am hyd at 24 mis i grwpiau gwahanol o gleintiau.
Mae'r cymorth yn cynnwys, help i reoli tenantiaeth mewn modd cyfrifol yn y tymor hir drwy gydweithio gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ar nifer o wahanol faterion, fel dyledion a chadw perthynas dda gyda landlordiaid a chymdogion.