Mae'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y Ganolfan yn teilwra rhaglenni ffitrwydd, ymarfer corff a ffisiotherapi i helpu pobl p'un a ydynt wedi cael diagnosis yn ddiweddar neu'n byw gyda chyflwr niwrolegol ers peth amser. Daw pobl yn aelodau trwy hunan-atgyfeiriad neu atgyfeiriad gofal iechyd i gael mynediad at y gwasanaethau. Cynigir gwasanaethau ar-lein, dros y ffôn ac yn y Ganolfan yn Saltney. Mae gwasanaethau’n cynnwys niwro ffisiotherapi, dosbarthiadau ymarfer corff/sesiynau ffitrwydd, cwnsela, therapi ocsigen hyperbarig, cyngor a chymorth arbenigol i Ofalwyr.