Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Llwybrau Newydd - De Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drais rhywiol, cam-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol rydym ni yma i chi. Nid ydych chi ar eich pen eich hun. Byddwn ni'n eich credu chi. Gallwn ni eich cynorthwyo chi.
Ni yw darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf Cymru, gyda 30 mlynedd o brofiad o gyflwyno cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol. Rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau argyfwng, eiriolaeth, lles a chwnsela arbenigol, yn rhad ac am ddim.