Nod Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru yw meithrin gallu staff addysg i ymateb i anghenion iechyd meddwl datblygol dysgwyr, yn ogystal â gwella eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain.
Yn ogystal â CAMHS rydym yn wasanaeth Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Mae ein gwasanaeth yn gweithio gydag ysgolion yn uniongyrchol: Rydym yn helpu staff addysg trwy ddarparu ymgynghoriadau uniongyrchol ar gyfer yr aelod o staff ac ymgynghoriadau anuniongyrchol ar gyfer y dysgwr.