Gall y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol drefnu addasiadau bach neu gynghori unigolion ynglŷn â ble i brynu darnau bach o gyfarpar. Efallai y bydd angen asesiad arbenigol mwy manwl i ddarparu addasiadau mwy.
Rydym ni’n cefnogi gyda gosodiadau teleofal i gynorthwyo unigolion sydd efallai yn dueddol i gael codymau neu grwydro. Mae posib’ defnyddio teleofal hefyd i helpu i reoli meddyginiaeth unigolion sydd efallai yn anghofio ei chymryd.
Rydym ni’n gweithio gydag unigolion a’u gofalwyr i gefnogi ag anawsterau codi a symud. Mae gan y Gwasanaeth Ymgynghorwyr Codi a Symud sydd hefyd yn cynnig hyfforddiant i ddarparwyr gofal yn y cartref.
Rydym ni’n darparu asesiadau seddau arbenigol i blant ar y cyd â gweithwyr yn y Gwasanaeth Addysg i sicrhau bod plant sydd ag anableddau sylweddol yn gallu cael eu cefnogi i fod â’r sedd gywir i sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosib’.
Gwasanaeth ymwybodol o ddementia #Dementia
Gwasanaeth ymwybodol o awtistiaeth