Mae Age Connects Gog.Ddwyrain Cymru yn cefnogi pobl hŷn yn Sir y Fflint a Wrecsam trwy gynnig y gwasanaethau canlynol:
Gwybodaeth a Chyngor: darparu gwybodaeth ar ystod eang o faterion i bobl ar draws yr ardal dros y ffôn, drwy sesiynau gwybodaeth galw heibio a digwyddiadau hyrwyddo eraill.
Gwasanaethau eiriolaeth sy’n darparu cymorth eiriolaeth i bobl hŷn, gan gynnwys diogelu a cham-drin domestig arbenigol a throseddau casineb.