Mae ein hymgynghorwyr yn ymweld â phobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain lle gallant nodi materion sy'n achosi problemau trwy broses asesu. Mae dymuniadau a safbwyntiau’r person hŷn yn ganolog i’r asesiad a’r cynllun cymorth dilynol. Y meysydd cymorth a gwmpesir yn yr asesiad yw:
Teimlo'n ddiogel yn eich cartref a'ch cymuned
Rheoli eich tenantiaeth a llety
Datblygu a chynnal perthnasoedd
Cynhwysiant cymdeithasol
Rheoli cyllid
Addysg a dysg
Gwirfoddoli
Iechyd corfforol
Lles emosiynol
Ffordd o fyw
Tasgau o ddydd i ddydd
Annibyniaeth