Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

GWASANAETH CYNRYCHIOLYDD PERSON PERTHNASOL Â THÂL

Lleoliad

Cyfeiriad post

14a Llys Onnen Parc Menai LL57 4DF

Cyswllt

01248670852

Beth yw Cynrychiolydd Person Perthnasol â Thâl?
Mae’n rhaid i bawb sydd ag awdurdodiad Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid safonolgael cynrychiolydd i sicrhau bod unrhyw amodau yn cael eu bodloni; i roi gwybod i’r person am eu hawliau a sut i arfer yr hawliau hynny.
Os nad oes person di-dâl sy’n gallu ymgymryd â’r rôl hon, mae’r Awdurdod Lleol yn penodi Cynrychiolydd Person â Thâl o GACGC.
Mae ein Cynrychiolwyr â Thâl yn annibynnol o’r cartref gofal neu’r ysbyty, yn ogystal â’r Awdurdod Lleol a’r Corff Goruchwylio. Mae ein gwasanaeth am ddim i’r sawl sydd wedi’i amddifadu o’i ryddid.