Ni yw’r elusen genedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad i bobl dan 35.
Rydym yn cynnig llinell gymorth HOPELINE247 sy’n gyfrinachol, ac am ddim i gefnogi pobl dan 35 oed sydd yn dioddef o deimladau hunanladdiad, ac i unrhyw un sydd yn pryderu amdanynt.
Rydym ni’n cynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth ac atal hunanladdiad i weithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ac yn rhoi’r grym i bobl arwain gweithgarwch atal
hunanladdiad yn eu cymunedau eu hunain yng Nghymru.
Rydym yn gweithio i ddylanwadu ar bolisïau cenedlaethol a newid agwedd cymdeithas tuag at hunanladdiad, gyda’r nod o ddileu’r stigma sy’n bodoli ynghylch hunanladdiad.
Rydym yn cefnogi gwirfoddolwyr ar draws Gymru sydd eisiau creu cymunedau diogel ac i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cynnal i bobl dan 35 sy’n dioddef o feddyliau hunanladdiad.