Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Pedal Power - Wrecsam

Lleoliad

Cyswllt

01978757524

Mae Beicio i Bawb yn elusen sy’n darparu cyfleoedd beicio unigryw i bawb. Pŵer Pedal yw ein gwasanaeth beiciau sy’n cynnig hwyl, therapi a theimlad o gyflawniad i bobl o bob gallu.

Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam. Mae gennym fflyd o feiciau safonol ac arbenigol gan gynnwys beiciau tair-olwyn, beiciau llaw, beiciau cadeiriau olwyn a beiciau ochr-yn-ochr. Mae llwybr beicio di-draffig yn mynd o amgylch y parc hefyd lle gall ein cwsmeriaid fwynhau beicio mewn amgylchedd diogel a sâff.

Ac os hoffech logi beic safonol, defnyddio un o’n beiciau hygyrch, dysgu sut i reidio beic, neu fynd am daith feiciau gyda’r teulu, gallwn eich helpu.