Mae Llwybr Pererindod Penrhys yn llwybr cerdded 21 milltir o hyd sy’n ail-greu’r llwybr pererindod hanesyddol rhwng Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd a Phenrhys yn y Rhondda. Mwynhewch gefn gwlad hardd a hanes hynod ddiddorol wrth i chi ddilyn yn ôl traed pererinion canoloesol. Gellir cwblhau'r llwybr mewn rhannau byr, gyda mynediad hawdd i arosfannau bysiau a gorsafoedd trên. Arferai pererinion canoloesol gymryd dau ddiwrnod i gerdded o Landaf i Benrhys. Gall pobl ffit iawn ei gerdded mewn diwrnod.