Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i bawb ym Mro Morgannwg waeth beth fo'u hamgylchiadau. Mae'r Cynllun Urddas Mislif yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth Cymru.
 
Mae cymorth parhaus wedi'i ddarparu ac mae cynhyrchion ar gael drwy ysgolion, y gwasanaeth ieuenctid, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, sefydliadau cymunedol ac amryw bartneriaid tai i sicrhau mynediad at nwyddau mislif, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posibl.
 
Nid oes meini prawf cymhwysedd penodol gan fod nwydau ar gael i holl drigolion Bro Morgannwg a gellir eu casglu trwy nifer o wahanol ffrydd:-
•	Mannau Casglu Urddas Mislif
•	Unedau Cyflenwi Urddas Mislif 
•	Ysgolion - Mae gan bob ysgol ym Mro Morgannwg gyflenwadau urddas mislif i'ch plentyn eu defnyddio.