Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru

Bydd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn cysylltu ag unigolion a sefydliadau ar draws y sbectrwm cyfan o weithgaredd corfforol yng Nghymru, gan ddarparu cymorth a hwyluso gweithio mewn partneriaeth. Bydd y rhwydwaith hefyd yn hwyluso rhannu gwybodaeth ac egwyddorion arfer gorau, gyda?r nod o gynyddu faint o weithgaredd corfforol y mae pobl Cymru yn ei wneud.
Lansiwyd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn ffurfiol ym mis Hydref 2006, ac ym mis Ebrill 2007 ffurfiodd gynghrair gyda Rhwydwaith Maeth Cymru. Mae?r ddau rwydwaith wedi datblygu gwefan gynhwysfawr ar y cyd, sydd ar gael drwy www.gweithgareddcorfforolamaethcymru.org.uk. Mae?r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth i bawb â diddordeb mewn gweithgaredd corfforol neu faeth, ac mae?n rhoi cyfle i rannu mentrau ac adnoddau.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag: Anne-Marie Beresford-Webb