Cyfleusterau
- Disabled access
- Disabled toilet
- Equipment
- Internet (wifi)
- Kitchen
- Parking
- Refreshment
- Toilets
Rydym yn elusen fach yn gwneud gwahaniaeth mawr trwy gynnig amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys ystafelloedd hyfforddi, cegin osod lawn a chyfleusterau meithrinfa. Rydym hefyd yn hollgynhwysol gan ein bod yn darparu mynediad cadair olwyn a chyfleusterau toiled anabl.
Mae ein amcanion elusennol fel a ganlyn:
a) i gefnogi, datblygu ac ychwanegu at y ddarpariaeth o gyfleusterau ar gyfer y gofal dyddiol, adloniant, chwarae mynediad agored ac addysg plant oed ysgol yng Ngheredigion, tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol;
b) i gefnogi, datblygu ac ychwanegu at y ddarpariaeth o gyfleusterau ar gyfer oedolion, gan gynnwys yr anabl , preswylwyr hŷn a’r rhai wedi ymddeol trwy ddarapru gweithgareddau adloniadaol a chymdeithasol ar gyfer cyngor a chymorth i ddatblygu addysg ac hyfforddiant staff a gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig â’r darpariaeth o’r fath ofal, addysg, cyfleusterau adloniadol a chwarae mynediad agored.
Mae gan bwyllgor RAY Ceredigion gyfrifoldeb cyfan gwbl am weithgareddau, staff a gwirfoddolwyr. Prif rôl y pwyllgor yw i sicrhau fod y prosiectau’n cael eu trosglwyddo’n briodol.
Office opening hours: Monday - Friday (08:45 - 17:00)↵↵However, rooms are available to hire outside of these hours, also RAY Ceredigion run varied projects outside of our office hours.
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig