Sefydlwyd Cymorth Canser Ray of Light Cymru yn 2009, ar gyfer a chan bobl yr effeithir arnynt gan ganser.
Mae Ray of Light yn cydnabod ac yn deall yr ansicrwydd, yr ofn a'r newid sy'n dod gyda diagnosis canser. Bob blwyddyn yng Nghymru mae dros 19,000 yn cael diagnosis o ganser ond mae effaith y diagnosis hwn i'w deimlo'n llawer mwy.
Rydym yn darparu man cyfrinachol, diogel ac anfeirniadol i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ganser, a
trwy helbul diagnosis eu hanwyliaid, wrth geisio ymdopi â bywyd teuluol bob dydd. I lawer, gall y cymorth hwn fod yn achubiaeth.
Rydym yn cynnig grwpiau a digwyddiadau ar draws De Ddwyrain Cymru, edrychwch ar ein tudalen Facebook i weld beth sy'n digwydd a ble neu cysylltwch â ni yn info@rayoflightwales.org.uk