Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol - Benthyg Bocs Hel Atgofion yn rhad ac am ddim

Mae ein Bocsys Hel Atgofion yn cynnwys casgliad o eitemau sydd â microsglodyn arbennig wedi’i osod arnynt. Pan fydd yr eitemau hyn yn cael eu gosod ar focs electronig arbennig, maent yn chwarae clipiau sain sy'n cynnau atgofion ac yn cychwyn sgyrsiau am yr oes a fu.

Mae ein trydydd casgliad o focsys hel atgofion ar gael gyda sain Cymraeg. Mae Geraint Pickard, yr artist trosleisio dawnus, yn dod â’n heitemau’n fyw yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Mae trawsgrifiad o'r sain yn Gymraeg a Saesneg ar gael i bawb sy'n cael benthyg bocs.

Os oes arnoch eisiau gwybod sut i fenthyca bocs Cymraeg, edrychwch ar ein gwefan, os gwelwch yn dda: https://www.royalmintmuseum.org.uk/collection/borrowabox/