Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Cymdeithas Frenhinol Plant Dall (RSBC)

Lleoliad

Cyfeiriad post

Life Without Limits Centre 10 Lower Thames St London EC3R 6AF

Mae'r Gymdeithas Frenhinol Blant Dall yn darparu cefnogaeth i Blant a Theuluoedd ledled Cymru. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifanc â nam ar eu golwg a'u teuluoedd. Er enghraifft: Ymarferwyr Teulu ledled Cymru sy'n ymroddedig i gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i'r teulu cyfan, a all gwrdd â theuluoedd yn bersonol neu ar-lein, yn y ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw.
Mae gwasanaeth cyngor rhad ac am ddim RSBC yn cynnig cymorth i bobl ifanc ag amhariad ar eu golwg ynghyd â’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol ac ymarferol y gallai teuluoedd fod â hawl iddo, er enghraifft, Budd-daliadau Lles a grantiau.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr i ddod â phlant a phobl ifanc dall a rhannol ddall at ei gilydd i gael hwyl, gwneud ffrindiau newydd, a datblygu sgiliau bywyd.
Mae gwasanaeth Dyfodol yn helpu pobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru i lywio’n hyderus drwy’r cyfnodau pontio drwy addysg, i’r gweithle, gwirfoddoli a phrofiad gwaith.