Atgofion Chwaraeon ydyn ni. Ers 10 mlynedd rydym wedi bod yn defnyddio pŵer cofio a siarad am chwaraeon – ynghyd ag ymarfer corff – i fynd i’r afael â dementia, iselder ac unigrwydd. Rydym yn ymroddedig i ddod ag oedolion hŷn ynghyd.
Gall yr oedolion hŷn sy’n dod i’n Clybiau ar-lein neu gymunedol fod yn ynysig, neu’n byw gydag iselder, dementia neu gyflyrau hirdymor eraill. Maen nhw'n gefnogwyr, yn gyn-chwaraewyr, yn aelodau o'r teulu. Mae gan bawb un peth yn gyffredin: cariad at chwaraeon.
Rydym yn darparu gweithgareddau cymdeithasol a chorfforol hefyd. Mewn Clybiau Atgofion Chwaraeon, mae pawb yn cael hwyl, cyfeillgarwch a mwy o les.