Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Seren Ffestiniog Cyf

Lleoliad

Cyswllt

01766 832378

Mae Seren yn elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 1996 i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu. Rydyn ni’n darparu gofal, cyfleoedd dysgu a phrofiadau bywyd drwy amrywiaeth o wasanaethau.

Mae Seren yn cynnig gofal byw â chymorth mewn sawl cartref ar draws ardal Dwyfor Meirionnydd, yn ogystal ag gwyliau seibiant yn ein gwesty tair seren, Gwesty Seren.

Fel rhan o’n cyfleoedd dydd, rydyn ni hefyd yn rhedeg caffi, gerddi cymunedol, canolfan dodrefnu, canolfan iechyd a lles, a gwasanaeth symudedd. Ein nod yw helpu pobl i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd, a chael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw i wneud cais am waith — naill ai gyda Seren neu gyda busnesau lleol eraill.