Hostel yng Nghaerdydd yw Hostel Syr Julian Hodge.
Mae’n cynnwys 25 ystafell wely ac mae’n darparu lloches a chymorth i bobl sengl ddigartref.
Yr hostel hwn, a agorwyd yn 1978, oedd hostel cyntaf Wallich, ac mae’n dal i ddarparu llety a chymorth i bobl sydd ag anghenion amrywiol.
Mae’r holl breswylwyr yn cyfarfod yn rheolaidd â’u gweithiwr cymorth eu hunain a fydd yn:
- Cynnig datblygiad personol
- Mynediad at wasanaethau priodol – er enghraifft cymorth cyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl
- Chyngor ar chwilio am lety parhaol
Mae gan bob preswylydd ei le byw ei hun, ar gyfer preifatrwydd, a chaiff fynediad at ystafelloedd byw cyffredin, er mwyn datblygu ei sgiliau cymdeithasol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u trefnu.
Mae’r hostel yn cynnwys cyfleusterau golchi dillad, ystafelloedd ymolchi a chawodydd.