Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Lleoliad

Cyswllt

0300 3030 161

Ffocws Dioddefwyr De Cymru yw'r prif wasanaeth cymorth i unrhyw un y mae trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt yn Ne Cymru. Mae ein gwasanaeth yn lleol, yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Gallwn gynnig cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth. Rydym yma i chi ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd neu a yw wedi cael ei riportio i'r heddlu. Rydym yn cefnogi dioddefwyr uniongyrchol ac anuniongyrchol.