Mae St John's yn cynnig llety dros dro diogel i bobl ddigatref yn Wrecsam.
Mae’r prosiect yn cynnwys dau hostel – mae St Johns yn cynnig chwe gwely a Richmond House yn cynnig 12 gwely i bobl sy’n canfod eu hunain heb gartref.
Mae yno hefyd ystafell ymolchi a chegin a rennir a gall pob preswylydd gael gwasanaeth gweithiwr cymorth.
Mae gweithwyr cymorth yn helpu preswylwyr i:
Datblygu sgiliau byw’n annibynnol sydd eu hangen i gynnal tenantiaeth
Cyrchu gofal iechyd, budd-daliadau, hyfforddiant ac addysg.
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.