Stonewall Cymru

Darparwyd gan
Stonewall Cymru

Darparwyd gan
Stonewall Cymru

Lleoliad

Cyfeiriad post

Transport House 1 Cathedral Road Cardiff CF119SB

Cyswllt

08000 502020

Stonewall Cymru yw?r Elusen Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) ar gyfer Cymru gyfan. Ein nod yw sicrhau cydraddoldeb ar gyfer pobl LHD gartref, yn yr ysgol, ac yn y gwaith.
Sefydlwyd yr elusen yn 2003 gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Stonewall y DU. Mae ein gwaith wedi?i deilwra ar gyfer anghenion pobl LHD ledled Cymru, gan ddefnyddio cyfoeth o ymchwil gan Stonewall ledled Prydain.

Yn y Cartref
Mae Stonewall Cymru yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru drwy waith ymchwil, lob�o ac ymgynghori �?r gymuned LHD. Un o?n llwyddiannau diweddar oedd gweld cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei gynnwys yn Nyletswyddau Penodol Cymru (rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010)

Rydym yn parhau i weithio gyda?r Heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, megis Gwasanaeth Erlyn y Goron, er mwyn annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb homoffobig; gan wneud Cymru?n lle mwy diogel i bobl LHD.

Yn ddiweddar, rydym wedi ymuno � Chymorth i Ddioddefwyr Cymru i greu prosiect ?Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri?, sef gwasanaeth cyfrinachol i ddioddefwyr troseddau casineb homoffobig

Yn yr ysgol
Mae 90% o bobl ifanc yn clywed iaith homoffobig yn yr ysgol. Mae Stonewall yn parhau i weithio, drwy ein Hymgyrch Addysg i Bawb, i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol i bobl ifanc.

Yn ddiweddar, rydym wedi creu nifer o ddeunyddiau ar gyfer athrawon, gan gynnwys ?FIT?, sef ein drama i ysgolion wedi'i haddasu'n ffilm nodwedd, yn ogystal � chanllawiau defnyddiol ar faterion megis herio iaith homoffobig yn y dosbarth.

Yn y gwaith
Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod ?pobl yn perfformio?n well yn y gweithle pan maent yn cael bod yn nhw eu hunain?. Mae ein rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn cydnabod hyn, a thrwy?r rhaglen hon, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i greu amgylcheddau gwaith sy?n galluogi pobl LHD i fod yn nhw eu hunain.

Mae ein rhaglen yn gweithio gydag oddeutu 600 o gyflogwyr ym mhob cwr o Brydain Fawr.

Yng Nghymru, mae ein haelodau?n cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Caerdydd a Chwaraeon Cymru