Mae Stori yn gymdeithas dai elusennol sy'n rhoi cymorth i ferched, dynion a’u plant a phobl ifanc ledled Cymru
Rydym yn cynnig dull cyfannol ac yn cefnogi pobl sydd ag ystod eang o anghenion.
Bydd gan bob unigolyn becyn cymorth teilwredig sy'n eu galluogi i ddiwallu eu hanghenion, dysgu sgiliau bywyd newydd a datblygu hyder.
Tra byddant yn byw mewn tai wedi’u darparu gan Stori, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein defnyddwyr gwasanaeth yn gallu cynnal eu hunain mewn tai â chymorth tymor byr.
Y nod yw y byddant yn symud ymlaen i fod yn annibynnol ac yn gallu cymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain yn y dyfodol.
Lloches Wasgaredig – Mae’n cynnig llety dros dro (hyd at 2 flynedd) wedi'i ddodrefnu'n llawn ar gyfer dynion neu ferched agored i niwed gyda phlant neu heb blant sydd wedi gorfod ffoi oherwydd cam-drin domestig.