Sesiynau Galw Heibio Iechyd a Lles yn y Gaer!
Ydych chi eisiau gwybod mwy am wasanaethau Iechyd a Lles (ar gyfer unrhyw oedran) yn ardal Aberhonddu?
Pryd: Sesiynau galw heibio misol bob dydd Iau o 10.00am i 3.30pm:
23 Hydref 2025
20 Tachwedd 2025
18 Rhagfyr 2025
22 Ionawr 2026
26 Chwefror 2026
Ble:
Llyfrgell ac Amgueddfa'r Gaer, Stryd Morgannwg, Aberhonddu LD3 7DW
Beth:
Atriwm – Mannau gwybodaeth i archwilio gwasanaethau sy'n darparu gwybodaeth a chymorth.
Pod – Ar gael os oes angen i chi siarad â rhywun yn breifat.
Ystafell Ddysgu Greadigol - (lle i 30) ar gyfer cyflwyniadau, profiadau a lle tawel.
Bydd gwasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd a lles ar gael i ddarparu’r canlynol:
Gwybodaeth
Cyngor
Cymorth
Profiadau
Cyflwyniadau